Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Cynllun Ieithoedd Swyddogol

DYDDIAD  

 

 

 

 

 


 

Cynnwys

Rhagair 1

Adran 1: Ein huchelgais. 5

Cwmpas y Cynllun Ieithoedd Swyddogol 9

Rhoi cyhoeddusrwydd i'n gwasanaethau dwyieithog a'u hyrwyddo. 10

Adran 2: Safonau gwasanaeth. 13

Safonau gwasanaeth ar gyfer Aelodau'r Cynulliad a'u staff cymorth.. 15

1     Paratoi ar gyfer y Cyfarfod Llawn.. 15

2     Paratoi ar gyfer cyfarfodydd Pwyllgor. 15

3     Cymryd rhan ym musnes y Cynulliad.. 16

4     Cofnodi'r Cyfarfod Llawn.. 17

5     Cofnodi cyfarfodydd Pwyllgor. 17

6     Cymorth i Gomisiwn y Cynulliad.. 17

7     Grwpiau trawsbleidiol 18

8     Hysbysebion a gohebiaeth etholaethol Aelodau'r Cynulliad.. 18

9     Cefnogi a datblygu sgiliau iaith.. 18

10      Deunydd cyfathrebu i Aelodau'r Cynulliad gan staff y Cynulliad.. 19

Safonau gwasanaeth ar gyfer cyfathrebu ac ymgysylltu â phobl Cymru.. 20

11      Gohebu â'r cyhoedd (e-bost neu gopi caled) 21

12      Galwadau ffôn.. 22

13      Ein delwedd gyhoeddus. 22

14      Gwasanaethau ymgysylltu a gwybodaeth gyhoeddus. 23

15      Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth.. 24

16      Ymwelwyr ag ystâd y Cynulliad Cenedlaethol 24

17      Digwyddiadau ac arddangosfeydd a noddir gan Aelodau’r Cynulliad ar ystâd y Cynulliad.. 24

18      Gweithio mewn partneriaeth.. 25

19      Gwasanaethau trydydd parti 25

20      Datblygu gwasanaethau newydd i'r cyhoedd.. 25

Safonau gwasanaeth ar gyfer ein staff er mwyn hwyluso gweithio’n ddwyieithog. 26

21      Cyfathrebu â staff 27

22      Gweithio'n ddwyieithog.. 28

23      Strategaeth Sgiliau Dwyieithog.. 28

24      Rhaglen gynefino ac ymwybyddiaeth.. 28

Adran 3  Themâu ar gyfer cyfnod y Cynllun hwn. 32

Thema 1: Recriwtio. 33

Thema 2: Sgiliau iaith.. 34

Thema 3: Cynllunio ieithyddol 35

Thema 4: Trafodion y Cynulliad. 35

Thema 5: Datblygu ethos dwyieithog y sefydliad. 36

Adran 4: Trefniadau ar gyfer monitro ac adrodd yn ôl 40

Yr awdurdod dros weithredu’r Cynllun hwn a’r cyfrifoldeb am ei roi ar waith.. 41

Monitro ac adrodd yn ôl 42

Adolygu a diweddaru'r Cynllun.. 43

Ymdrin â chwynion.. 44

25      Cydgysylltu'r broses o roi'r Cynllun ar waith.. 44

26      Ymdrin â chwynion ac achosion o fethu â chydymffurfio.. 44

27      Yr adroddiad blynyddol 44

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 


Rhagair

 


 


 

 


 


 

Adran 1: Ein huchelgais


 

Ein huchelgais yw i fod yn sefydliad gwirioneddol ddwyieithog lle y gall Aelodau’r Cynulliad, y cyhoedd a'r staff ddewis gweithio neu gyfathrebu'n naturiol drwy ddefnyddio’r naill iaith swyddogol neu’r llall, neu’r ddwy iaith, lle caiff y defnydd o’r ddwy iaith ei annog a’i hwyluso yn frwd, a lle y caiff ein gwasanaethau dwyieithog rhagorol eu hehangu a’u gwella yn barhaus.

Rydym yn eithriadol o falch o'r cynnydd a wnaed yn ystod oes y Cynllun Ieithoedd Swyddogol cyntaf. Mae'r cynnydd hwnnw hefyd wedi adeiladu ar yr ystod eang o wasanaethau a oedd eisoes wedi'u datblygu dros gyfnodau amrywiol gynlluniau iaith Gymraeg a oedd ar waith ers i'r Cynulliad gael ei sefydlu ym 1999.

Mae'r Cynulliad yn sefydliad dwyieithog. Rydym yn gwerthfawrogi ein holl aelodau o staff, pa mor ddwyieithog bynnag ydynt, am yr ymrwymiad i'r Cynulliad a'u harbenigedd proffesiynol a seneddol. Rydym yn disgwyl bod pob aelod o staff yn ymroddedig i ddarparu'r safonau uchaf o gymorth seneddol i'r Aelodau a'r cyhoedd yn ein dwy iaith swyddogol.

Mae gennym ddyletswydd sydd wedi'i hymgorffori mewn cyfraith i ddarparu hawliau i'r cyhoedd ac i Aelodau'r Cynulliad ryngweithio â'r Cynulliad yn yr iaith swyddogol o'u dewis. Caiff ein dwy iaith swyddogol eu cydnabod fel ieithoedd gweinyddu mewnol. Rydym yn hwyluso gweithio'n ddwyieithog ar gyfer staff y Comisiwn drwy brif ffrydio gwasanaethau dwyieithog fel y disgrifir yn ein safonau gwasanaeth.

- Gan hynny rydym: wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau dwyieithog rhagorol, i Aelodau’r Cynulliad, y cyhoedd a'r staff;

- yn gyflogwr sy’n cefnogi pob aelod o staff sydd am ddatblygu neu wella eu sgiliau yn y ddwy iaith swyddogol neu yn y naill iaith neu'r llall i safon sy’n briodol i’w swydd, neu ymhellach os dymunant; ac

- yn sefydliad sy’n dysgu gan eraill ac yn rhannu ei brofiadau a’i wybodaeth am weithio’n ddwyieithog. 

Ein hymrwymiad

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad”) yn gwasanaethu cenedl ddwyieithog lle mae bron un o bob pump o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg.  Y Cynulliad yw canolbwynt cenedlaethol bywyd democrataidd yng Nghymru ac mae'n falch o’r enw da sydd ganddo’n rhyngwladol fel sefydliad dwyieithog. 

Mae Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Comisiwn”) yn gyfrifol am ddarparu’r eiddo, y staff a’r gwasanaethau sydd eu hangen ar y Cynulliad.  Nodau strategol y Comisiwn yw: 

- darparu cymorth seneddol o’r radd flaenaf; 

- ymgysylltu â phobl Cymru a hyrwyddo'r Cynulliad; a

- defnyddio adnoddau’n ddoeth. 

Ymrwymiad y Comisiwn i ddwyieithrwydd yw'r sail i gyflawni'r nodau hyn – mae ein gwasanaethau, ein strategaethau a’n dyheadau yn adlewyrchu statws cyfartal ein hieithoedd swyddogol. Rydym yn gwerthfawrogi yr amrywiaeth o fewn ein gweithlu, ac mae’r Comisiwn wedi ymrwymo i sicrhau amrywiaeth o fewn y sefydliad trwy ein Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant. Mae’r Cynllun hwn yn ymwneud â darparu gwasanaethau dwyieithog yn ein hieithoedd swyddogol a’r goblygiadau inni o ran Ddeddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) 2012 yn unig. 

Y fframwaith deddfwriaethol

Dyma ail Gynllun Ieithoedd Swyddogol y Cynulliad. Cyhoeddwyd y cyntaf ym mis Gorffennaf 2013, yn dilyn cyflwyno Deddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) 2012. Cyn cyflwyno’r Ddeddf, roedd y Cynulliad yn gweithredu Cynlluniau Iaith Gymraeg yn unol â Deddf yr Iaith Gymraeg 1993. Mae'r Cynulliad yn y sefyllfa unigryw o gael ei ddeddfwriaeth ei hun i reoleiddio ei sail statudol ar gyfer gweithio'n ddwyieithog. Mae'n golygu bod y Gymraeg a'r Saesneg yn cael eu trin fel ieithoedd swyddogol yn y Cynulliad.

O dan y Ddeddf Ieithoedd Swyddogol, mae'n ofynnol i'r Cynulliad gyhoeddi Cynllun newydd ar gyfer pob tymor y Cynulliad. Hwn, felly, yw'r Cynllun dros gyfnod y Pumed Cynulliad o 2016 i 2021.

Safonau'r Gymraeg

Yn 2015, cyflwynodd Comisiynydd y Gymraeg y set gyntaf o reoliadau ynghylch safonau'r Gymraeg. Mae'n bwysig nodi nad yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru na'r Cynllun hwn yn destun cyfundrefn safonau'r Gymraeg. Rydym yn credu bod ein Cynllun yn cymharu'n ffafriol â'r safonau sy'n berthnasol i Weinidogion Cymru, cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol yng Nghymru ac awdurdodau parciau cenedlaethol, ac ni fyddem am fynd islaw ysbryd y safonau hynny o gwbl.

Cynllun Ieithoedd Swyddogol 2013-2016

Mae gweithredu ein Cynllun yn caniatáu inni bennu ein blaenoriaethau ein hunain ac yn ein galluogi i fod yn arloesol yn y ffordd yr ydym yn darparu gwasanaethau dwyieithog.

Roedd ein Cynllun cyntaf yn cwmpasu'r cyfnod 2013 i 2016 ac roedd yn canolbwyntio ar bedwar maes allweddol:

- darparu cymorth arloesol sydd wedi’i deilwra er mwyn galluogi pobl i ddefnyddio’r ddwy iaith; 

- gwneud y defnydd gorau o dechnoleg;

- datblygu sgiliau a hyder staff y Cynulliad i ddefnyddio’u Cymraeg drwy ddarparu'r cymorth hwnnw; a

- rhannu'r pethau sy'n gweithio i ni â gweddill Cymru a'r byd amlieithog tu hwnt i'n ffiniau.

Rydym wedi cyflawni gwelliannau mawr i wasanaethau a chyrhaeddwyd mwyafrif helaeth o'r targedau a osodwyd. Arweiniodd gwaith yn y pedwar maes allweddol uchod at y llwyddiannau canlynol y tu hwnt i'n safonau gwasanaeth arferol:

- gan weithio gyda'r Aelodau i ddeall dewisiadau unigol yn well, rhoddwyd darpariaeth amrywiol ar waith i gefnogi gweithio'n ddwyieithog, er enghraifft, mae dogfennau briffio dwyieithog bellach yn cael eu darparu ar gyfer aelodau pwyllgorau. Mae hyn yn caniatáu i Aelodau'r Cynulliad baratoi ar gyfer cyfarfodydd Pwyllgor yn eu dewis iaith, gan hwyluso mwy o ddefnydd o'u dewis iaith mewn trafodion. Hefyd, mewn ymateb i adborth gan Aelodau'r Cynulliad, rydym yn datblygu cyfres o eirfaon ac ymadroddion technegol Cymraeg ar gyfer Biliau ac ymchwiliadau pwyllgorau sydd hefyd yn cael eu cyhoeddi ar ein gwefan. Mae'r geirfaon yn cynorthwyo Aelodau'r Cynulliad i drafod pynciau llai cyfarwydd yn eu dewis iaith.

- lansiwyd model Cymraeg byd-eang ar gyfer Microsoft Translator yn y Senedd ar 21 Chwefror 2014, gan alluogi defnyddwyr Microsoft ledled y byd i gyfieithu i'r Gymraeg ac o'r Gymraeg. Cyrhaeddodd y cyhoeddusrwydd am y digwyddiad lansio gynulleidfa fyd-eang o hyd at 5 miliwn o bobl, gan hyrwyddo nid yn unig yr iaith Gymraeg, ond y Cynulliad Cenedlaethol a'i bartneriaeth gyda Microsoft. Mae staff y Cynulliad yn defnyddio'r dechnoleg mewn dwy ffordd: mae'r rhai nad ydynt yn siarad Cymraeg yn gallu deall hanfod unrhyw ohebiaeth Gymraeg er mwyn iddynt allu ei phrosesu ac ymateb iddi'n gyflymach ac yn effeithiol; ac mae cyfieithwyr y Cynulliad wedi integreiddio'r dechnoleg i ategu'r feddalwedd cof cyfieithu a ddefnyddir, gan gynyddu effeithlonrwydd cyfieithwyr hyd at 20%.

- rydym wedi trawsnewid yn llwyr y ffordd yr ydym yn cefnogi staff y Comisiwn sy'n dymuno dysgu Cymraeg. Ym mis Tachwedd 2014, dechreuwyd treialu dull mwy anffurfiol yn sgil penodi Tiwtor Cymraeg mewnol. Roedd hyn yn llwyddiannus, ac roedd y cyfraddau a fanteisiodd arno'n rhagorol, gyda dysgwyr yn ymateb i ddull hyblyg sydd wedi'i deilwra o ddysgu Cymraeg. Erbyn diwedd y Pedwerydd Cynulliad, arweiniodd llwyddiant y dull hwn at greu Tîm Sgiliau Iaith o bedwar, gan ddarparu amrywiaeth o gyfleoedd dysgu Cymraeg i Aelodau'r Cynulliad a'u staff cymorth yn ogystal â staff Comisiwn y Cynulliad, yn amrywio o ddechreuwyr pur i siaradwyr Cymraeg rhugl sy'n dymuno datblygu eu Cymraeg ysgrifenedig ymhellach.

- y Cynulliad bellach yw un o'r sefydliadau dwyieithog mwyaf blaenllaw yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Rhoesom gyhoeddusrwydd i'r gwaith yn ymwneud â Microsoft Translator a sicrhau ei fod ar gael i gynulleidfa fyd-eang. Rydym wedi rhoi nifer o gyflwyniadau i gynadleddau a sefydliadau unigol, ar y ffordd y mae technoleg iaith wedi trawsnewid y ffordd rydym yn gweithio'n ddwyieithog ac ar ein datblygiadau o ran dysgu Cymraeg. O ganlyniad, mae sefydliadau eraill wedi dilyn ein hesiampl gyda thechnoleg a'n darpariaeth dysgu Cymraeg. 

Ein themâu ar gyfer y Cynllun hwn

Gan adeiladu ar y llwyfan a ddatblygwyd gennym yn y Pedwerydd Cynulliad, rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i arwain y ffordd o ran darparu gwasanaethau dwyieithog ac arloesi yn y maes.

Mae ein camau gweithredu ar gyfer y Cynllun hwn yn canolbwyntio ar bum thema allweddol:

- ethos dwyieithog y sefydliad;

- recriwtio

- sgiliau iaith;

- trafodion y Cynulliad;

- cynllunio ieithyddol.

Rhestrir rhagor o fanylion am y themâu yn adran tri. Eu nod yw ein harwain i'r lefel nesaf, ychwanegu at ein capasiti dwyieithog fel sefydliad a'n tywys yn agosach fyth at gyflawni ein huchelgais.

Cwmpas y Cynllun Ieithoedd Swyddogol

Mae'r Cynllun wedi'r rannu'n bedair adran:

- mae adran un, uchod, yn nodi ein huchelgais a'n hymrwymiad ac yn rhoi trosolwg o'r hyn a gyflawnwyd gennym yn ystod y Cynllun cyntaf;

- mae adran dau yn nodi ein safonau gwasanaeth presennol ac yn amlinellu sut y byddwn yn cyflawni ein dyletswydd statudol i ddarparu gwasanaethau dwyieithog ar gyfer tri grŵp gwahanol: Aelodau'r Cynulliad a'u staff; pobl Cymru; staff y Cynulliad;

- mae adran tri yn nodi ein blaenoriaethau ar gyfer y Cynllun hwn a'r gwasanaethau dwyieithog yr ydym yn anelu at eu darparu yn ystod oes y cynllun;

- mae adran pedwar yn amlinellu sut y byddwn yn monitro ac yn adrodd ar y Cynllun a sut y byddwn yn ymdrin â chwynion pe baem yn methu â chyrraedd y safonau uchel yr ydym wedi'u gosod i ni ein hunain neu'n methu â bodloni disgwyliadau pobl eraill.


 

Rhoi cyhoeddusrwydd i'n gwasanaethau dwyieithog a'u hyrwyddo

Byddwn yn sicrhau bod Aelodau’r Cynulliad a’u staff, y cyhoedd a staff y Cynulliad yn ymwybodol o’r Cynllun hwn ac o’r gwasanaethau yr ydym yn eu darparu.  Byddwn yn rhoi cyhoeddusrwydd i’n gwasanaethau dwyieithog drwy: 

- hyrwyddo bodolaeth y Cynllun wrth ymgysylltu â’n rhanddeiliaid a’r cyhoedd; 

- ymgysylltu â rhanddeiliaid allanol fel Comisiynydd y Gymraeg er mwyn i ni allu dysgu o brofiad a hefyd rhannu ein profiad o ddarparu gwasanaethau dwyieithog rhagorol;

- codi ymwybyddiaeth o'r Cynllun a'i ofynion ymysg staff yn barhaol drwy ddarparu hyfforddiant cychwynnol i bob aelod o'r staff fel rhan o'u rhaglen gynefino, a mentrau codi ymwybyddiaeth parhaus drwy gydol y flwyddyn seneddol;

- sicrhau bod staff dwyieithog yn bresennol mhob ardal gyhoeddus lle mae gan y Cynulliad bresenoldeb corfforaethol a bod modd eu hadnabod yn hawdd;

- cynnwys hyrwyddo’r Cynllun yn y rhaglen gynefino ar gyfer Aelodau’r Cynulliad newydd a’u staff cymorth.

Os bydd angen eglurhad arnoch ar unrhyw agwedd ar y Cynllun Ieithoedd Swyddogol, cysylltwch â Rheolwr y Cynllun Ieithoedd Swyddogol fel y nodir isod.

Mae copi electronig o'r Cynllun hwn ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol. www.cynulliadcymru.org  

Gellir cael rhagor o gopïau o'r ddogfen hon mewn fformatau hygyrch, gan gynnwys Braille, print bras, fersiwn sain a chopïau caled o:

Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1NA

- Ar lein: www.cynulliad.cymru    

- E-bost: cyswllt@cynulliad.cymru

- Ffôn: 0300 111 6565

 

 

 


 


 


 

Adran 2: Safonau gwasanaeth

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Mae’r Comisiwn yn falch o’i lwyddiannau wrth hwyluso trafodion dwyieithog a statws rhyngwladol cydnabyddedig y Cynulliad fel corff sy’n cael ei ethol yn ddemocrataidd ac sydd wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau dwyieithog arloesol. 

Mae’r Ddeddf yn gosod dyletswydd statudol ar y Comisiwn i alluogi unrhyw un sy’n ymwneud â trafodion y Cynulliad i wneud hynny naill ai yn Gymraeg neu yn Saesneg, sef ein hieithoedd swyddogol. 

Er mwyn galluogi Aelodau'r Cynulliad a'u staff cymorth i wneud hyn, mae’r Comisiwn yn:

- darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd, o’r Gymraeg i’r Saesneg, ym mhob un o Gyfarfodydd Llawn a Phwyllgorau’r Cynulliad, yn unol â Rheolau Sefydlog 13.2 a 17.45;

- cyhoeddi'r holl ddogfennau sy’n deillio o'r Cynulliad ac sy'n ymwneud â busnes ffurfiol y Cynulliad yn y ddwy iaith swyddogol yn unol â gofynion y Rheolau Sefydlog;

- darparu deunyddiau dwyieithog a dulliau i gymryd rhan yn nhrafodion ffurfiol y Cynulliad yn ddwyieithog; a

- darparu hyfforddiant iaith pwrpasol, a chymorth i ddatblygu a gwella sgiliau iaith mewn cyd-destun proffesiynol.

Nid yw’r Cynllun hwn yn cwmpasu Aelodau'n rhyngweithio â’u hetholwyr ar lefel un-i-un, ond mae'n rhaid i unrhyw ddeunyddiau a ariennir gan y Comisiwn neu'r Bwrdd Taliadau gael eu cynhyrchu'n ddwyieithog. Bydd y Comisiwn yn parhau i ddarparu adnoddau er mwyn sicrhau y gall Aelodau'r Cynulliad ymdrin ag etholwyr yn yr iaith swyddogol o ddewis eu hetholwyr.

Yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Ieithoedd Swyddogol 2012), rydym yn cyhoeddi cofnod cwbl ddwyieithog o drafodion y Cynulliad yn y Cyfarfod Llawn (Cofnod y Trafodion).


 

Safonau gwasanaeth ar gyfer Aelodau'r Cynulliad a'u staff cymorth

1                Paratoi ar gyfer y Cyfarfod Llawn

1.1            Mae unrhyw ddogfennau a osodir neu unrhyw fusnes a gyflwynir ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg yn unol â Rheol Sefydlog 15.4.

1.2            Mae'r holl Filiau sy’n cael eu hystyried gan y Cynulliad Cenedlaethol ar gael yn y ddwy iaith swyddogol, ar wahân i’r rhai a ystyrir o dan yr amgylchiadau a amlinellir yn Rheol Sefydlog 26.5. 

1.3            Mae fersiynau Cymraeg a Saesneg o ddogfennau cyhoeddus ar gyfer y Cyfarfod Llawn ar gael yn gydamserol ar gyfer Aelodau’r Cynulliad a’r cyhoedd.

1.4            Bydd papurau mewnol a phreifat ar gael yn newis iaith swyddogol aelodau unigol.

1.5             Pan nad yw’n bosibl cael dogfennau gan sefydliadau allanol a thrydydd parti yn y ddwy iaith, rydym yn eu cyhoeddi yn yr iaith y’u cyflwynwyd, gan nodi bod y dogfennau wedi dod i law yn yr iaith honno yn unig.   

1.6            Mae papurau ategol eraill a ddarperir gan drydydd parti, gan gynnwys gohebiaeth gan Lywodraeth Cymru (e.e. atebion i gwestiynau llafar ac ysgrifenedig), yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cânt eu cyflwyno ynddi.  Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill  weithredu eu safonau neu'u cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â’u rhwymedigaethau cyfreithiol. 

1.7            Os na fyddwn yn cyrraedd y safon hon, bydd cofnod swyddogol yn cael ei greu a chamau'n cael eu cymryd er mwyn atal hyn rhag digwydd eto.        

1.8            Bydd gohebiaeth gan neu ar ran y Llywydd i'r holl Aelodau, sy'n ymwneud â busnes y Cyfarfod Llawn, yn ddwyieithog. 

 

2                Paratoi ar gyfer cyfarfodydd Pwyllgor

2.1            Mae fersiynau Cymraeg a Saesneg o ddogfennau cyhoeddus ar gyfer cyfarfodydd Pwyllgor ar gael yn gydamserol ar gyfer Aelodau’r Cynulliad a’r cyhoedd.

2.2            Bydd papurau mewnol a phreifat ar gael yn newis iaith swyddogol aelodau unigol.

2.3             

 

2.4            Bydd pwyllgorau yn gofyn o’r cychwyn cyntaf i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau gan sefydliadau allanol a thrydydd parti y bwriedir eu cyhoeddi a / neu eu defnyddio yn nhrafodion y Cynulliad Cenedlaethol gael eu cyflwyno'n ddwyieithog.

2.5            Pan nad yw’n bosibl cael dogfennau gan sefydliadau allanol a thrydydd parti yn y ddwy iaith, rydym yn eu cyhoeddi yn yr iaith y’u cyflwynwyd, gan nodi bod y dogfennau wedi dod i law yn yr iaith honno yn unig.   

2.6            Mae papurau ategol eraill a ddarperir gan drydydd parti, gan gynnwys gohebiaeth gan Lywodraeth Cymru (e.e. atebion i gwestiynau llafar ac ysgrifenedig), yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith/ieithoedd y cânt eu cyflwyno ynddynt.  Rydym yn disgwyli sefydliadau eraill i weithredu eu safonau neu'u cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â’u rhwymedigaethau cyfreithiol. 

2.7            Bydd yr ohebiaeth rhwng y Llywydd a holl Gadeiryddion y Pwyllgorau yn ddwyieithog.  Mae llythyrau sydd wedi’u cyhoeddi ar gael yn y ddwy iaith swyddogol.  Mater i Gadeiryddion y pwyllgorau yw iaith yr ohebiaeth rhwng Cadeiryddion unigol y pwyllgorau.

 

3                Cymryd rhan ym musnes y Cynulliad

3.1            Gall y rhai sy’n cymryd rhan yn nhrafodion swyddogol y Cynulliad ddefnyddio'r naill iaith swyddogol neu'r llall, neu'r ddwy iaith.

3.2            Mae gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael i Aelodau’r Cynulliad, tystion a staff y Cynulliad sy’n cymryd rhan yn nhrafodion y Cynulliad neu’n eu cefnogi.  Darperir ffrwd sain i'r rhai sy'n gwylio'r trafodion ar bob un o'n llwyfannau yn yr ieithoedd gwreiddiol a'r iaith y cyfieithir iddi.

3.3            Mae gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael i ymwelwyr yn orielau cyhoeddus ac ystafelloedd pwyllgora y Senedd a Thŷ Hywel ac ar draws ystâd y Cynulliad yn ystod trafodion a digwyddiadau'r Cynulliad.  Mae’r gwasanaeth hwn hefyd ar gael ar gyfer busnes swyddogol neu ddigwyddiadau oddi ar ystâd y Cynulliad.

3.4            Gall Aelodau’r Cynulliad, eu staff cymorth a staff y Cynulliad ddilyn trafodion y Cynulliad yn yr iaith wreiddiol neu wrando ar gyfieithiad ohonynt (o’r Gymraeg i’r Saesneg) ar y sianel deledu fewnol. 

3.5            Mae ein cyfleusterau fideogynadledda yn caniatáu i Aelodau a thystion ddefnyddio'r iaith swyddogol o'u dewis yn ystod trafodion pan fydd hynny'n dechnegol bosibl. 

 

4                Cofnodi'r Cyfarfod Llawn

4.1            Mae fersiwn dreigl nad yw wedi’i golygu o Gofnod y Trafodion yn cael ei chyhoeddi oddeutu awr ar ôl i'r Cyfarfod Llawn ddechrau. Mae’n cynnwys cyfraniadau yn yr ieithoedd swyddogol a siaredir ynghyd â thrawsgrifiad o’r cyfieithu ar y pryd o gyfraniadau Cymraeg.

4.2            Mae fersiwn cwbl ddwyieithog wedi’i golygu o Gofnod y Trafodion, gan gynnwys cyfraniadau Saesneg wedi’u cyfieithu i’r Gymraeg, yn cael ei chyhoeddi ar wefan y Cynulliad o fewn tri diwrnod gwaith neu'n gynt os oes modd.

4.3            Pan ddangosir fideo yn ystod y Cyfarfod Llawn, mae hyperlinc i’r deunydd a ddefnyddir yn cael ei gynnwys yng Nghofnod y Trafodion ynghyd â thrawsgrifiad  o unrhyw gyfraniadau llafar yn yr ieithoedd swyddogol. 

 

5                Cofnodi cyfarfodydd Pwyllgor

5.1            Mae trawsgrifiadau drafft wedi’u golygu o drafodion y pwyllgorau, ynghyd â thrawsgrifiad o’r cyfieithu ar y pryd o gyfraniadau Cymraeg, yn cael eu cyhoeddi o fewn 3 diwrnod gwaith, a thrawsgrifiad terfynol wedi'i olygu yn cael ei gyhoeddi o fewn 10 diwrnod gwaith.

5.2            Pan ddangosir fideo yn ystod trafodion pwyllgor, mae hyperlinc i’r deunydd a ddefnyddir yn cael ei gynnwys yn y trawsgrifiad o’r pwyllgor ynghyd â thrawsgrifiad o unrhyw gyfraniadau llafar yn yr ieithoedd swyddogol gan gynnwys cyfieithiad o’r Gymraeg i’r Saesneg

 

6                Cymorth i Gomisiwn y Cynulliad

6.1            Mae fersiynau Cymraeg a Saesneg o agendâu, cofnodion a phapurau ategol ar gael yn gydamserol ar gyfer Comisiynwyr y Cynulliad.

6.2            Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o'r Gymraeg i'r Saesneg ar gyfer cyfarfodydd Comisiwn y Cynulliad

6.3            Cyhoeddir adroddiadau cyhoeddedig a phapurau cyfarfodydd sy'n ymwneud â busnes Comisiwn y Cynulliad yn y ddwy iaith swyddogol.

6.4            Mae deunydd cyfathrebu Comisiwn y Cynulliad i Aelodau'r Cynulliad, staff y Cynulliad a'r cyhoedd ar gael yn y ddwy iaith swyddogol.

6.5            Mae Comisiwn y Cynulliad yn ymateb i bob gohebiaeth yn newis iaith y derbynnydd o fewn 15 diwrnod gwaith.

 

7                Grwpiau trawsbleidiol

7.1            Mae gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael ar gyfer cyfarfodydd grwpiau trawsbleidiol ar gais.

7.2            Mae Comisiwn y Cynulliad yn darparu ar gyfer cyfieithu  adroddiadau blynyddol a chofnodion grwpiau trawsbleidiol.

 

8                Hysbysebion a gohebiaeth etholaethol Aelodau'r Cynulliad

8.1            Rhoddir cyfeiriadau e-bost i Aelodau’r Cynulliad a’u staff cymorth yn y ddwy iaith swyddogol enw.cyfenw@cynulliad.cymru a name.surname@assembly.wales. Gallant ddewis pa gyfeiriad i'w ddefnyddio, ond gellir defnyddio'r naill neu'r llall i gysylltu â hwy.

8.2            Mae cronfa gyfieithu ar gael i Aelodau unigol o'r Cynulliad er mwyn hwyluso'r defnydd o'r iaith swyddogol o'u dewis er mwyn sgwrsio, gohebu neu gyfathrebu â'u hetholwyr. Mae'r gronfa hon ar gael i gefnogi'r Aelodau drwy ddarparu gwasanaeth cyfieithu testun a chyfieithu ar y pryd.

8.3            Rhaid i unrhyw ddeunyddiau (fel papur â phennawd, cardiau busnes, hysbysebion ar gyfer cymorthfeydd ac adroddiadau) sy'n cael eu hariannu gan Gomisiwn y Cynulliad neu'r Bwrdd Taliadau gael eu cynhyrchu’n ddwyieithog

8.4            Mae'r Comisiwn yn darparu templed dwyieithog ar gyfer dylunio gwefannau Aelodau'r Cynulliad sy'n cael eu hariannu gan Gomisiwn y Cynulliad neu'r Bwrdd Taliadau.

8.5            Gall Aelodau'r Cynulliad ddefnyddio'r gronfa gyfieithu y cyfeirir ati uchod gyfieithu cynnwys eu gwefannau.

 

9                Cefnogi a datblygu sgiliau iaith

9.1            Mae Comisiwn y Cynulliad, drwy'r Tîm Sgiliau Iaith, wedi ymrwymo i ddarparu cymorth hyblyg wedi'i deilwra ar gyfer Aelodau'r Cynulliad a’u staff cymorth i ddatblygu neu wella eu sgiliau iaith.

9.2            Mae Comisiwn y Cynulliad yn darparu amgylchedd dysgu i’r Aelodau a’u staff cymorth sy’n eu helpu i ddysgu a datblygu eu sgiliau Cymraeg, boed hynny drwy addysgu, hyfforddi neu ddefnyddio adnoddau ar eu cyflymder eu hunain.

9.3            Rydym yn darparu llinynnau gwddf 'Iaith Gwaith' neu 'Dysgwr' i Aelodau'r Cynulliad a'u staff cymorth.

9.4            Gellir ffurfweddu ein rhyngwyneb Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh) i’w ddefnyddio yn y naill iaith swyddogol neu’r llall. Darperir Cysgliad, y feddalwedd gramadeg a gwirio sillafu Cymraeg, yn ddi-ofyn i bob Aelod Cynulliad a’u staff cymorth o’r cychwyn cyntaf. 

9.5            Mae cyngor ar dechnoleg iaith, gan gynnwys Microsoft Translator, a sut i'w defnyddio'n briodol, ar gael ar Fewnrwyd yr Aelodau ac mae’r Tîm Ieithoedd Swyddogol yn daprau sesiynau hyfforddiant ar y defnydd o’r Gymraeg ar y cyfrifiadur.

 

10            Deunydd cyfathrebu i Aelodau'r Cynulliad gan staff y Cynulliad

10.1         Rydym yn darparu fersiynau dwyieithog o fewnrwyd yr Aelodau.

10.2         Rydym yn cyfathrebu ag Aelodau'r Cynulliad yn eu dewis iaith neu'n ddwyieithog.

10.3         Gall Aelodau'r Cynulliad a'u staff cymorth ohebu â holl feysydd gwasanaeth y Cynulliad yn yr iaith swyddogol o ddewis yr Aelodau, a bydd y maes gwasanaeth yn ymateb yn yr un iaith.

10.4         Mae gan Aelodau'r Cynulliad a'u staff cymorth yr hawl i sgwrsio gyda staff y Cynulliad yn y naill iaith swyddogol neu'r llall. Pan fydd aelod o staff nad yw'n siarad Cymraeg yn ymateb i alwad gan Aelod neu un o'i staff cymorth sy'n siarad Cymraeg, rydym yn disgwyl iddo esbonio nad yw'n siarad Cymraeg a chynnig trosglwyddo'r alwad i gydweithiwr sy'n medru'r iaith neu, os yw'n well gan y sawl sy'n galw, parhau yn Saesneg.

10.5         Mae gohebiaeth a anfonir at holl Aelodau'r Cynulliad fel grŵp yn ddwyieithog.

10.6         Mae’r holl arwyddion dros dro a pharhaol, a phosteri a thaflenni gwybodaeth y mae Comisiwn y Cynulliad yn eu darparu ar ystâd y Cynulliad ar gael yn ddwyieithog ac yn gydamserol.  Y testun Cymraeg sy'n ymddangos gyntaf neu ar y brig. Os darperir fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân, maent yn gyfartal o ran safon, fformat, maint ac amlygrwydd.

10.7         Rydym yn disgwyl i bosteri neu daflenni gwybodaeth a ddarperir gan drydydd parti sy’n cael eu harddangos ar hysbysfyrddau ar ystâd y Cynulliad fod yn ddwyieithog.

10.8         Mae pob un o gyhoeddiadau'r Cynulliad sydd ar gael yn ddwyieithog yn gyfartal o ran safon, fformat, maint ac amlygrwydd, a byddant yn cael eu cynhyrchu yn unol â chanllawiau Comisiwn y Cynulliad ar arddull tŷ.

10.9         Wrth ddatblygu gwasanaethau newydd ar gyfer Aelodau’r Cynulliad a’u staff cymorth, byddwn yn trin y ddwy iaith swyddogol yn gyfartal.

 


 

Safonau gwasanaeth ar gyfer cyfathrebu ac ymgysylltu â phobl Cymru

Mae’r Comisiwn wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau dwyieithog o’r safon uchaf i’r cyhoedd. 

Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Ieithoedd Swyddogol 2012) yn gosod dyletswydd statudol ar y Comisiwn i alluogi’r cyhoedd i gyfathrebu ac ymgysylltu â’r Cynulliad – boed hynny wyneb yn wyneb, dros y ffôn, ar-lein neu drwy ohebiaeth – yn yr iaith swyddogol o'u dewis. 

Gall aelodau’r cyhoedd neu sefydliadau allanol gynnal digwyddiadau neu arddangosfeydd ar ystâd y Cynulliad. Mae’r Cynulliad yn ei gwneud yn ofynnol bod pob digwyddiad o’r fath yn cael ei noddi gan Aelod Cynulliad. Rydym yn ei gwneud yn ofynnol i drefnwyr digwyddiadau a noddir gan Aelodau’r Cynulliad gydymffurfio â’r rhannau perthnasol hynny o’r Cynllun.

Pan fyddwn yn gweithio mewn partneriaeth ag eraill, byddwn yn eu hannog i gyrraedd y safonau yr ydym yn eu pennu ar ein cyfer ni ein hunain. 

Bydd gofyn i unrhyw gontractau neu drefniadau rhwng y Comisiwn a thrydydd parti (fel asiantaethau recriwtio, cwmnïau arlwyo, ymgynghorwyr, contractwyr ac ati)  i ddarparu gwasanaethau i’r cyhoedd, gydymffurfio â rhannau perthnasol o’r Cynllun hwn. 

Pan fyddwn yn datblygu gwasanaethau newydd i’r cyhoedd, neu’n diwygio gwasanaethau presennol yn llwyr, byddant yn ddwyieithog o’r cychwyn cyntaf.

11            Gohebu â'r cyhoedd (e-bost neu gopi caled)

11.1         Rydym yn ymateb i bob eitem o ohebiaeth gan y cyhoedd yn newis iaith y sawl sy’n gohebu o fewn 15 diwrnod gwaith.

11.2         Anfonir unrhyw ohebiaeth yn dilyn cyfarfod neu alwad ffôn yn iaith y drafodaeth wreiddiol oni bai ein bod yn cael gwybod y byddai’n well gan y derbynnydd gael yr ohebiaeth yn yr iaith swyddogol arall neu yn y ddwy iaith.

11.3         Mae gohebiaeth safonol neu gylchlythyrau at fwy nag un derbynnydd yng Nghymru yn cael eu hanfon yn ddwyieithog.

11.4         Pan gaiff fersiynau Cymraeg a Saesneg o unrhyw ohebiaeth eu cyhoeddi ar wahân, mae’r ddwy fersiwn ar gael yn gydamserol ac yn gyfartal o ran safon, fformat, maint ac amlygrwydd.

11.5         Mae llofnod awtomatig staff y Cynulliad, a negeseuon sy’n nodi na fyddant yn y swyddfa, yn ddwyieithog. Mae templedi ar gael i sicrhau bod y testun Cymraeg a Saesneg yn gyfartal o ran safon, fformat a maint.  Y testun Cymraeg sy'n ymddangos gyntaf neu ar y brig.

11.6         Mae pob un o gyhoeddiadau'r Cynulliad ar gael yn ddwyieithog, yn gyfartal o ran safon, ffurf, maint ac amlygrwydd, ac yn cael eu cynhyrchu yn unol â chanllawiau Comisiwn y Cynulliad ar arddull tŷ.

11.7         Gellir cysylltu â staff y Cynulliad ar gyfeiriadau e-bost yn y naill iaith swyddogol neu’r llall: enw.cyfenw@cynulliad.cymru a name.surname@assembly.wales.


 

12            Galwadau ffôn

12.1         Caiff unrhyw aelod o’r cyhoedd sy’n cysylltu â’r switsfwrdd neu’r dderbynfa yn Nhŷ Hywel, y Senedd, y Pierhead neu Swyddfa Gogledd Cymru ei gyfarch yn ddwyieithog.

12.2         Dylai aelodau o staff y Cynulliad ateb y ffôn gyda chyfarchiad dwyieithog.   Byddwn yn parhau i sicrhau bod yr adnoddau a'r hyfforddiant priodol ar gael er mwyn iddynt wneud hynny. 

12.3         Mae gan y cyhoedd yr hawl i sgwrsio â staff y Cynulliad yn y naill iaith swyddogol neu’r llall.  Pan fydd aelod o staff nad yw’n siarad Cymraeg yn ymateb i alwad gan siaradwr Cymraeg, rydym yn disgwyl iddo esbonio nad yw’n siarad Cymraeg a chynnig trosglwyddo’r alwad i gydweithiwr sy’n medru'r iaith neu, os yw'n well gan y cwsmer, parhau yn Saesneg. 

12.4         Mae neges ffôn ddwyieithog ar beiriannau ateb ein prif switsfwrdd a’n derbynfeydd.

12.5         Dylai negeseuon llais unigol dros y ffôn gael eu recordio'n ddwyieithog, ac mae adnoddau a hyfforddiant ar gael i hwyluso hyn.

 

13            Ein delwedd gyhoeddus

13.1         Mae'r holl ddulliau hysbysebu, cyhoeddusrwydd ac ymgyrchu, neu ddulliau eraill o ymgysylltu, sy’n targedu’r cyhoedd yn cael eu cynhyrchu'n ddwyieithog.  O bryd i’w gilydd, gall hyn olygu cael deunyddiau neu gynnyrch Cymraeg a Saesneg ar wahân, a byddant bob amser ar gael yn gydamserol.  Y testun Cymraeg sy'n ymddangos gyntaf neu ar y brig. Os yw’r fersiynau Cymraeg a Saesneg ar gael ar wahân, byddant yn gyfartal o ran safon, fformat, maint ac amlygrwydd. 

13.2         Mae ein hunaniaeth gorfforaethol yn un ddwyieithog. Fodd bynnag, adnabyddir rhai termau gan un enw yn y ddwy iaith swyddogol, gan gynnwys y rhai a ganlyn:  

- Llywydd

- Senedd, Neuadd, Cwrt, Oriel, Siambr;

- Tŷ Hywel; Siambr Hywel; a

- Pierhead.

14            Gwasanaethau ymgysylltu a gwybodaeth gyhoeddus

14.1         Mae gwybodaeth i'r cyfryngau yn gyffredinol yn cael ei chyhoeddi'n ddwyieithog.  Darperir eitemau arbennig ar gyfer aelodau unigol o’r cyfryngau yn yr iaith swyddogol o'u dewis.

14.2         Mae gwybodaeth am y Cynulliad Cenedlaethol yn cael ei chyhoeddi ar ddwy wefan, un yn Gymraeg, www.cynulliad.cymru, a’r llall yn Saesneg, www.assembly.wales.  

14.3         Mae gwasanaethau allgymorth ar gael yn y naill iaith swyddogol neu’r llall.  Caiff defnyddwyr y gwasanaeth y cyfle i ddewis iaith wrth drefnu ymweliad gan y tîm allgymorth. 

14.4         Mae ein ffrydiau cyfryngau cymdeithasol ar gael yn ddwyieithog, naill ai mewn un cyfrif dwyieithog neu mewn cyfrifon Cymraeg a Saesneg ar wahân

14.5         Mae ein polisi cyfryngau cymdeithasol yn amlinellu sut y byddwn yn sicrhau presenoldeb dwyieithog priodol.

14.6         Bydd ein presenoldeb ar bob platfform ymgysylltu digidol newydd yn ddwyieithog.

14.7         Pan na fydd y platfformau hyn ar gael yn ddwyieithog, bydd unrhyw gynnwys a gyhoeddir gennym ni yn ddwyieithog, a byddwn yn annog ein rhanddeiliaid i gyfrannu yn eu dewis iaith swyddogol.

14.8         Rydym yn ymateb i ymholiadau ar ein holl broffiliau yn y cyfryngau cymdeithasol yn yr iaith y’u cyflwynwyd.

14.9         Gall y cyhoedd wylio trafodion y Cynulliad ar Senedd.tv, sianel ddarlledu ar-lein y Cynulliad, a hynny naill ai gyda neu heb gyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg. 

14.10      Mae fideos gwybodaeth a gynhyrchir gan y Cynulliad ar gael yn ddwyieithog.  

14.11      At ddibenion busnes Pwyllgorau, caiff tystiolaeth fideo ei darlledu yn yr iaith wreiddiol gydag is-deitlau Saesneg i gyd-fynd â chyfraniadau Cymraeg. Mae trawsgrifiadau o ddeunydd ffilm ar gael yn yr iaith wreiddiol gyda chyfieithiad o’r Gymraeg i’r Saesneg yn ôl yr angen.

14.12      Mae unrhyw raglenni (apiau), gwefannau neu offer ar-lein yr ydym yn eu creu neu'n eu comisiynu ar gael yn ddwyieithog. 

14.13      Ar gyfer yr holl gyfarfodydd, seminarau, digwyddiadau neu arddangosfeydd cyhoeddus a drefnir gan Gomisiwn y Cynulliad ar neu oddi ar ystâd y Cynulliad rydym yn:

- anfon gwahoddiadau dwyieithog ac yn cynhyrchu deunydd cyhoeddusrwydd dwyieithog; 

- darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg yn ôl y galw ac yn rhoi gwybod i’r rhai sy’n debygol o fod yn bresennol bod y cyfleuster hwn ar gael yn y digwyddiad; 

- darparu papurau ategol ac unrhyw adroddiadau dilynol yn ddwyieithog; 

- sicrhau bod staff dwyieithog ar gael ym mhob cyfarfod/digwyddiad o'r fath. 


 

15            Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth

15.1         Pan fyddwn yn ymateb i gais o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, neu’r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol, byddwn yn gohebu â’r sawl sy’n gwneud cais yn eu dewis iaith swyddogol. Yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol ac arfer gorau. Wrth ymateb i geisiadau am wybodaeth, caiff y wybodaeth ei darparu yn yr iaith y’i cedwir gan y Comisiwn.

 

16            Ymwelwyr ag ystâd y Cynulliad Cenedlaethol

16.1         Gall y cyhoedd ddisgwyl gallu sgwrsio â staff rheng flaen naill ai yn Gymraeg neu yn Saesneg yn y mannau cyhoeddus hynny a reolir gan Gomisiwn y Cynulliad (y Senedd, y Pierhead, Tŷ Hywel a Swyddfa Gogledd Cymru, ac mewn cyfarfodydd pwyllgor a digwyddiadau cyhoeddus a gynhelir oddi ar ystâd y Cynulliad).

16.2         Mae ymweliadau addysgol a theithiau o amgylch y Senedd ar gael yn y naill iaith swyddogol neu’r llall a rhai ieithoedd eraill.  Caiff ymwelwyr y cyfle i ddewis iaith wrth drefnu ymweliad. 

16.3         Mae teithiau o amgylch y Senedd ar fyr rybudd ar gael yn ein hieithoedd swyddogol a rhai ieithoedd eraill. 

16.4         Mae cyhoeddiadau clywedol dros y system gyhoeddiadau cyhoeddus ar yr ystâd, gan gynnwys y lifftiau, yn ddwyieithog.

16.5         Gall ymwelwyr â Chaffi’r Senedd a’r siop ddisgwyl cael gwasanaeth dwyieithog. 

16.6         Mae modd adnabod aelodau o staff sy'n siarad Cymraeg neu sy'n ddysgwyr yn hawdd drwy'r defnydd o linynnau gwddf 'Iaith Gwaith' neu 'Dysgwr'.

 

17            Digwyddiadau ac arddangosfeydd a noddir gan Aelodau’r Cynulliad ar ystâd y Cynulliad

17.1         Disgwylir i sefydliadau sy'n cynnal digwyddiadau ar ystâd y Cynulliad anfon gwahoddiadau dwyieithog i'r digwyddiad, a hynny yn enw’r Aelod Cynulliad sy’n eu noddi, ac mae’n ofynnol iddynt anfon y gwahoddiadau at dîm digwyddiadau’r Cynulliad i’w cymeradwyo cyn eu defnyddio.

17.2         Bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd yn cael ei ddarparu ar gyfer unrhyw ddigwyddiadau a gynhelir gan sefydliadau allanol ar ystâd y Cynulliad ar gais yr Aelod o'r Cynulliad sy'n noddi'r digwyddiad.

17.3         Disgwylir i sefydliadau sy'n destun safonau'r Gymraeg neu gynlluniau iaith Gymraeg sy’n cynnal digwyddiadau ar ystâd y Cynulliad ac sy’n targedu Aelodau’r Cynulliad neu’r cyhoedd, weithredu yn unol â’r safonau neu’r cynlluniau hynny mewn perthynas â gwybodaeth gyhoeddus a’u delwedd gyhoeddus. 

17.4         Anogir sefydliadau nad ydynt yn destun cynllun neu safonau iaith i weithredu yn unol ag egwyddorion y Cynllun hwn.

 

18            Gweithio mewn partneriaeth 

18.1         Pan fydd Comisiwn y Cynulliad yn gweithredu fel arweinydd strategol ac ariannol mewn partneriaeth ffurfiol bydd elfennau gwasanaeth cyhoeddus y bartneriaeth honno yn cydymffurfio â’r Cynllun hwn.

18.2         Pan fydd Comisiwn y Cynulliad yn ymuno â phartneriaeth ffurfiol a arweinir gan eraill, bydd mewnbwn y Comisiwn yn cydymffurfio â’r Cynllun hwn.  Byddwn yn annog partneriaid eraill i barchu egwyddorion y Cynllun hwn. 

18.3         Pan fydd Comisiwn y Cynulliad yn dod yn bartner mewn consortiwm, byddwn yn annog y consortiwm i gydymffurfio â’r Cynllun hwn. Pan fyddwn yn gweithredu yn enw’r consortiwm hwn, byddwn yn gwneud hynny yn unol â’r Cynllun hwn.

18.4         Mae fersiynau terfynol o ddogfennau cyfreithiol a chytundebau cyfreithiol ag unigolion, sefydliadau neu grwpiau ar gael yn newis iaith swyddogol y partner.  

 

19            Gwasanaethau trydydd parti

19.1         Bydd unrhyw wasanaethau i’r cyhoedd a ddarperir o dan gontract neu drefniant rhwng Comisiwn y Cynulliad a thrydydd parti (fel asiantaethau recriwtio, cwmnïau arlwyo, ymgynghorwyr, contractwyr ac ati) yn cydymffurfio â’r rhannau perthnasol o’r Cynllun hwn.  

19.2         Rydym yn sicrhau bod ein holl gontractwyr yn deall ein hymrwymiad i hyrwyddo dwyieithrwydd ac nid dim ond cydymffurfio â'n safonau ond hefyd chwilio am gyfleoedd i wella gwasanaethau dwyieithog.

19.3         Mae ein holl dogfennau caffael yn nodi ein Cynllun ac ein hymrwymiad i ddarparu gwasanaethau dwyieithog. Maent hefyd yn nodi’r gofynion ar drydydd parti i gydymffurfio â’r Cynllun.

19.4         Anfonir gwahoddiadau i gyflwyno tendr at gyflenwyr yn ddwyieithog neu yn eu dewis iaith os bydd hynny'n hysbys. Oni bai fod pawb sy'n ymwneud â'r broses yn gallu gweithio'n ddwyieithog, at ddibenion gwerthusiad mewnol, caiff unrhyw geisiadau ar gyfer tendr a gyflwynir yn Gymraeg eu cyfieithu i'r Saesneg.

 

20            Datblygu gwasanaethau newydd i'r cyhoedd

20.1         Pan fyddwn yn datblygu gwasanaethau newydd i'r cyhoedd, byddwn yn trin y ddwy iaith swyddogol yn gyfartal. Bydd gwasanaethau newydd i’r cyhoedd yn ddwyieithog o’r cychwyn cyntaf.

 


 

Safonau gwasanaeth ar gyfer ein staff er mwyn hwyluso gweithio’n ddwyieithog

Canfu'r Archwiliad Sgiliau mewnol a gynhaliwyd gennym yn 2015 fod tua thri chwarter y staff y mae'r Comisiwn yn ei gyflogi yn ystyried eu bod yn ddysgwyr, bod ganddynt rywfaint o sgiliau dwyieithog neu eu bod yn gwbl ddwyieithog. Mae hyn yn dangos ymrwymiad enfawr y sefydliad i gynyddu ei gapasiti dwyieithog. 

Mae ein Strategaeth Sgiliau Dwyieithog yn ein helpu i reoli ein hadnodd sgiliau, gan ystyried arferion gorau mewn cynllunio ieithyddol a chynllunio'r gweithlu, gan gynnwys canllawiau gan Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg, ac yn unol â'r ddeddfwriaeth cyflogaeth a chydraddoldeb berthnasol.

Rydym yn sicrhau bod y staff yn deall gofynion y Ddeddf, y Cynllun Ieithoedd Swyddogol a'r Strategaeth Sgiliau Dwyieithog a sut maent yn effeithio ar y gwasanaethau a ddarparwn. Gall ein staff ddisgwyl:

- mynediad i gymorth hyblyg wedi'i deilwra i aelodau o staff sy'n dymuno datblygu neu wella eu sgiliau iaith, a chyngor cadarn ar weithio'n ddwyieithog;

- cyfathrebu dwyieithog gyda'r holl staff megis mewnrwyd y staff a negeseuon e-bost i'r holl staff;

- y gallu i gyfrannu at gyfarfodydd gyda'r holl staff yn y naill iaith swyddogol neu'r llall;

- rhyngwyneb TGCh y gellir ei ffurfweddu i'w ddefnyddio yn y naill iaith swyddogol neu’r llall;

- cael cyfieithiad o unrhyw ddogfen y maent wedi'i drafftio i unrhyw un o ieithoedd swyddogol y Cynulliad gan Wasanaeth Cyfieithu a Chofnodi y Cynulliad yn ogystal â gwasanaeth gwirio testun yn y naill iaith neu'r llall;

- cymorth i ddrafftio testun yn ddwyieithog, gan gynnwys cyngor ar y dechnoleg iaith sydd ar gael a sut i'w defnyddio'n briodol, yn ogystal â'r defnydd o wasanaeth gwirio testun cyflym ar gyfer cynnwys sy'n cael ei ddrafftio gyda chymorth cyfieithu peirianyddol; a

- derbyn dogfennau corfforaethol Adnoddau Dynol a Chyllid mewnol yn ddwyieithog neu yn eu dewis iaith swyddogol.

Yr hyn rydym yn ei ddisgwyl gan ein staff:

- bod yn gwbl ymroddedig i roi’r Cynllun hwn ar waith a darparu’r gwasanaethau dwyieithog sydd wedi’u hamlinellu ynddo;

- parchu hawliau Aelodau, cydweithwyr a’r cyhoedd i ddefnyddio’r naill iaith neu’r llall neu’r ddwy iaith swyddogol;

- sicrhau ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o'r cyd-destun hanesyddol, cymdeithasol, diwylliannol a chyfreithiol sy’n sail i ddatblygiad y Cynllun hwn a’r gwasanaethau dwyieithog a ddarperir gennym; a

- datblygu gwasanaethau newydd yn unol â darpariaethau’r Ddeddf a’r Cynllun.

Yr hyn yr ydym yn ei ddisgwyl gan fwrdd rheoli staff y Cynulliad:

- ystyried gofynion y Ddeddf a'r Cynllun hwn wrth ymgymryd â'u dyletswyddau fel Penaethiaid Gwasanaeth neu Arweinwyr Tîm o ddydd i ddydd;

- datblygu cynlluniau iaith ar gyfer pob maes gwasanaeth a chyfrannu at ddatblygiad yr adroddiad blynyddol ar weithredu'r Cynllun hwn;

- arwain drwy esiampl a chwilio am ffyrdd o wella’r gwasanaethau dwyieithog a gynigiwn a mynd i’r afael ar unwaith ag unrhyw achosion pe bai’r ddarpariaeth islaw’r safon ddisgwyliedig;

- annog a chefnogi staff sy'n dymuno gweithio'n ddwyieithog;

- annog a chefnogi staff sy'n dymuno datblygu neu wella eu sgiliau iaith, ac

- ystyried sut mae ein prosesau cynllunio ieithyddol, ein cyfleoedd hyfforddi a’n dull recriwtio yn rhoi ystyriaeth lawn i’r angen am sgiliau dwyieithog ar draws y sefydliad ochr yn ochr â blaenoriaethau busnes allweddol eraill (fel yr amlinellir yn yr adran hon).

21            Cyfathrebu â staff

21.1         Mae templedi ar gyfer dogfennaeth gorfforaethol yn ddwyieithog. 

21.2         Mae pob neges ar ein tudalen newyddion i staff, negeseuon e-bost at yr holl staff ac arolygon staff yn ddwyieithog.  Mae'r ddwy fersiwn yn gyfartal o ran safon, fformat, maint ac amlygrwydd.

21.3         Mae unrhyw wybodaeth newydd  y mae staff yn ei datblygu am eu gwasanaethau (e.e. Gwybodaeth ar y rhyngrwyd ac ar ffurf copi caled) yn ddwyieithog.  

21.4         Mae gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael ym mhob cyfarfod i'r holl staff, ac ar gais ar gyfer cyfarfodydd a digwyddiadau eraill (e.e. cyfarfodydd tîm, byrddau prosiect, gweithgorau).

21.5         Caiff cyfarfodydd y bwrdd rheoli eu cynnal yn ddwyieithog.  C

21.6         Mae gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o'r Gymraeg i'r Saesneg ar gael i aelodau unigol o staff ar gais ar gyfer cyfarfodydd yn ymwneud â chyflogaeth (h.y. adolygiadau perfformiad, cwynion neu brosesau disgyblu).

21.7         Mae gwasanaeth cyfieithu testun ar gael ar gyfer staff unigol ar gais ar gyfer unrhyw faterion yn ymwneud â chyflogaeth (megis adolygiadau perfformiad, cwynion neu brosesau disgyblu).

 

22            Gweithio'n ddwyieithog

22.1         Mae'r Gwasanaeth Cyfieithu a Chofnodi yn darparu gwasanaethau gwirio testun amrywiol i staff y Cynulliad.

22.2         Mae gwybodaeth am y gwasanaethau a ddarperir gan y Gwasanaeth Cyfieithu a Chofnodi, a sut i gomisiynu a defnyddio'r gwasanaethau hynny ar gael ar Fewnrwyd y staff.

22.3         Mae'r Gwasanaeth Cyfieithu a Chofnodi yn cynnal deialog gyda chanolfannau rhagoriaeth yng Nghymru a thu hwnt er mwyn sicrhau ei fod yn cael gwybodaeth am y datblygiadau diweddaraf mewn technoleg iaith a chyfieithu.

22.4         Mae gwybodaeth a chanllawiau ynghylch argaeledd a defnydd priodol o dechnoleg iaith, gan gynnwys cyfieithu peirianyddol, yn cael ei chyhoeddi ar Fewnrwyd y staff a darperir hyfforddiant ar gais.

22.5         Gellir ffurfweddu ein rhyngwyneb TGCh  i’w ddefnyddio yn y naill iaith swyddogol neu’r llall, ac mae cyngor ar ffurfweddu ar gael ar Fewnrwyd y staff. Darperir Cysgliad, y feddalwedd gramadeg a gwirio sillafu Cymraeg, yn ddi-ofyn i bob aelod o staff o'r cychwyn cyntaf.

22.6         Gellir ffurfweddu ein system Adnoddau Dynol a chyflogres i'w defnyddio yn y naill iaith swyddogol neu’r llall, ac mae cyngor ar ffurfweddu ar gael ar Fewnrwyd y staff.

 

23            Strategaeth Sgiliau Dwyieithog 

23.1         Yn unol â'r Ddeddf, mae Strategaeth Sgiliau Dwyieithog yn ei lle i sicrhau bod staff y Cynulliad, ar y cyd, ac ar draws y meysydd gwasanaeth, yn meddu ar y sgiliau iaith angenrheidiol i alluogi'r Cynllun i gael ei weithredu.

23.2         Caiff cynlluniau iaith meysydd gwasanaeth unigol eu paratoi a'u hadolygu'n rheolaidd er mwyn cynllunio ar gyfer darparu gwasanaethau dwyieithog, a sicrhau bod aelodau'r staff yn cael y gefnogaeth ac yn meddu ar y sgiliau sydd eu hangen arnynt i ddarparu'r gwasanaethau hynny.

 

24            Rhaglen gynefino ac ymwybyddiaeth

24.1         Fel rhan o'r broses gynefino gorfforaethol, bydd pob aelod newydd o staff yn cael ei hysbysu am ofynion y Cynllun hwn, ac ymrwymiad y Cynulliad i ddarparu gwasanaethau dwyieithog rhagorol.

24.2         Bydd pob aelod newydd o staff yn cael gwybod am y cymorth sydd ar gael i ddatblygu neu wella eu sgiliau iaith fel rhan o'r broses gynefino.

24.3         Rydym yn darparu llinynnau gwddf 'Iaith Gwaith' neu 'Dysgwr' i aelodau o staff fel y bo'n briodol.

24.4         Bydd pob aelod o staff yn ymwybodol o ofynion iaith eu swydd benodol hwy o’r cychwyn cyntaf. Caiff ymgeiswyr eu hasesu yn briodol yn ystod y broses recriwtio er mwyn sicrhau eu bod yn gyffyrddus â’r hyn sy’n ddisgwyliedig o ddeiliad y swydd. Caiff y system rheoli perfformiad ei ddefnyddio i adolygu dealltwriaeth deiliaid swyddi o ofynion iaith eu swydd, ac i nodi unrhyw gymorth pellach sydd ei angen ar unigolion er mwyn cyrraedd y safonau disgwyliedig.


 


 


 

Adran 3
Themâu ar gyfer cyfnod y Cynllun hwn

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Roedd yr adran flaenorol yn amlinellu ein safonau gwasanaeth presennol. Mae'r adran hon yn amlinellu sut rydym yn bwriadu adeiladu ar y safonau hynny er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni ein huchelgais. Byddwn yn canolbwyntio ar y pum thema ganlynol:

Thema 1: Recriwtio

Ym mis Mehefin 2016, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru adroddiad y Gweithgor ar yr Iaith Gymraeg a Llywodraeth Leol, o'r enw ‘Iaith, Gwaith a Gwasanaethau Dwyieithog’[1]. Yn ogystal â phwysleisio pwysigrwydd hyfforddiant iaith yn y gweithle, mae hefyd yn argymell ffordd gymharol newydd o recriwtio gweithlu dwyieithog. Yn hytrach na disgrifio swyddi a hysbysebir fel 'Cymraeg yn hanfodol', 'Cymraeg yn ddymunol', neu ddim un o'r rhieni, mae'n argymell fframwaith rhuglder. Mae'r fframwaith, sy'n seiliedig ar y model rhuglder ALTE a gydnabyddir yn rhyngwladol, yn cynnwys lefelau graddedig o hyfedredd yn y Gymraeg. O dan y fframwaith, byddai angen rhyw lefel sylfaenol o ddealltwriaeth o'r Gymraeg ar gyfer pob swydd a hysbysebir, er y byddai llawer ohonynt ar y lefel isaf lle mae angen 'cwrteisi ieithyddol sylfaenol' yn unig.

Mae nifer o sefydliadau yn y sector cyhoeddus yng Nghymru eisoes yn defnyddio'r dull newydd hwn, gan gynnwys Heddlu Gogledd Cymru, a chynghorau sir Caerdydd, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion. Mae dull gweithredu a fabwysiadwyd gan y sefydliadau hyn wedi creu argraff arnom, ac felly rydym yn bwriadu mabwysiadu dull gweithredu tebyg, mwy soffistigedig tuag at recriwtio staff dwyieithog ar draws y sefydliad cyfan. Ar y cyd â'r cymorth sydd ar gael i bob aelod o staff feithrin y sgiliau perthnasol ar gyfer pob un o'r lefelau rhuglder, rydym yn credu ein bod mewn sefyllfa dda i gyflwyno system o'r fath ar gyfer staff Comisiwn y Cynulliad.

Felly, er mwyn cynyddu lefel y sgiliau iaith Gymraeg sylfaenol ar draws y sefydliad dros amser, ac i adeiladu ar ein hethos dwyieithog presennol, erbyn diwedd 2017, byddwn yn:

- mabwysiadu dull lle mae angen o leiaf lefel sylfaenol o sgiliau Cymraeg ('cwrteisi ieithyddol sylfaenol') ar gyfer pob swydd a hysbysebir a bod disgwyl i ymgeiswyr ddangos tystiolaeth o'r sgiliau hynny adeg eu penodi, neu ymrwymiad i ddysgu'r sgiliau hynny fel rhan o'r broses gynefino;

- rhoi cyngor i'r holl ymgeiswyr ar feithrin y sgiliau iaith priodol cyn eu penodi, gan gynnwys adnoddau arlein;

- darparu hyfforddiant pwrpasol ar gyfer pob aelod newydd o staff y mae'n ofynnol iddo feithrin sgiliau iaith fel rhan o'r broses gynefino;

- datblygu mecanwaith i helpu i bennu'r lefelau rhuglder sy'n ofynnol ar gyfer pob swydd a'u disgrifio yn yr hysbyseb swydd;

- rhoi arweiniad i reolwyr recriwtio ar y geiriad priodol er mwyn adlewyrchu gofynion pob swydd;

- sicrhau bod Bwrdd Buddsoddi ac Adnoddau Comisiwn y Cynulliad yn craffu ar statws gofyniad ieithyddol pob swydd a hysbysebir cyn eu cymeradwyo;

- sicrhau bod paneli recriwtio yn gallu asesu sgiliau iaith perthnasol y swydd a hysbysebwyd yn gywir;

- sicrhau bod yr holl ymgeiswyr posibl yn ymwybodol o ethos dwyieithog y sefydliad cyn gwneud cais am swydd;

- ymchwilio i ddulliau amgen o recriwtio staff dwyieithog i feysydd penodol lle nad ydym wedi llwyddo i ddenu pobl iddynt yn y gorffennol.

 

Thema 2: Sgiliau iaith

Gosododd ein gwaith yn ystod y Pedwerydd Cynulliad y sylfeini ar gyfer ffordd arloesol o gyflwyno sgiliau dysgu Cymraeg i Aelodau'r Cynulliad a'u staff ac ar gyfer aelodau o staff Comisiwn y Cynulliad. Yn ychwanegol at y camau gweithredu ar recriwtio a amlinellir uchod, rydym hefyd wedi ymrwymo i gefnogi pob aelod o staff i ddatblygu neu wella eu sgiliau iaith.

Mae Tîm Sgiliau Iaith wedi'i benodi i ddarparu gwersi Cymraeg ar draws y sefydliad. Bydd gwaith y tîm yn rhoi mwy o ffocws i ddysgu Cymraeg ar gyfer y gweithle. Bydd yn parhau i gynnig gwasanaeth hyblyg a phwrpasol, yn arbennig i Aelodau'r Cynulliad sy'n ddysgwyr neu sy'n dymuno gwella eu sgiliau dwyieithog presennol. Mae'r dull hyblyg a phwrpasol hefyd wedi gweithio'n dda ar gyfer meysydd gwasanaeth megis y gwasanaethau Diogelwch a Cyswllt Cyntaf. Fodd bynnag, bydd y tîm hefyd yn rhoi targed dysgu penodol bob blwyddyn i bob dysgwr sy'n cofrestru ar gyrsiau dan arweiniad tiwtor. Bydd rheolwyr llinell yn cefnogi aelodau o staff i gyrraedd eu targedau a bydd cynnydd yn cael ei gysylltu â'r sgiliau iaith a nodwyd fel rhan o'r graddau rhuglder (gweler 'Recriwtio' uchod). Defnyddir cynnydd dysgwyr i ddiweddaru cynlluniau iaith meysydd gwasanaeth unigol a chaiff ei gydnabod fel rhan o'r system rheoli perfformiad.

Felly, erbyn diwedd 2017, byddwn yn:

- datblygu rhaglen o hyfforddiant sgiliau iaith pwrpasol gan ystyried gofynion a dulliau dysgu gwahanol yr holl aelodau o staff;

- datblygu hyfforddiant penodol ar gyfer rhannau penodol o'r sefydliad megis y gwasanaeth Diogelwch er mwyn rhoi'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i bob aelod o staff i ddarparu gwasanaeth dwyieithog rhagorol i gwsmeriaid;

- gweithio gyda meysydd gwasanaeth i edrych ar ffyrdd o weithio'n wahanol a defnyddio arbenigedd o feysydd gwasanaeth eraill megis y Gwasanaeth Cyfieithu a Chofnodi i ddarparu gwasanaethau dwyieithog;

- cyflwyno systemau mwy cadarn i osod targedau ar gyfer dysgwyr ac i gydnabod cyflawniadau;

- parhau i gynnig darpariaeth dysgu Cymraeg bwrpasol a hyblyg i Aelodau'r Cynulliad a'u staff;

- archwilio modelau newydd, amrywiol ac arloesol o helpu dysgwyr i ddatblgyu eu sgiliau iaith, er enghraifft secondiadau a chynlluniau trochi ieithyddol, ac yn treialu’r modelau hyn dros gyfnod y cynllun hwn.

 

Thema 3: Cynllunio ieithyddol

Er mwyn i'r holl gamau gweithredu a restrir uchod fod yn effeithiol, bydd angen i holl feysydd gwasanaeth y Cynulliad gynllunio'n effeithiol ar gyfer darparu gwasanaethau dwyieithog. Bydd y system recriwtio newydd yn cael ei chefnogi gan hyfforddiant sgiliau iaith priodol, a fydd, yn ei dro, yn arwain at fwy o gapasiti dwyieithog. Roedd y Strategaeth Sgiliau Dwyieithog a gynhaliwyd o dan y Cynllun Ieithoedd Swyddogol yn ei gwneud yn ofynnol i feysydd gwasanaeth gyhoeddi eu cynlluniau iaith eu hunain. Mae'r rhain yn nodi capasiti dwyieithog y tîm mewn perthynas â swyddogaethau'r gwasanaethau o ddydd-i-ddydd, ac yn amlinellu sut mae pob tîm yn gwneud y defnydd gorau o'r sgiliau iaith sydd o fewn y tîm a thu hwnt iddo. Ar gyfer y Pumed Cynulliad, bydd angen i'r cynlluniau iaith fod yn fwy cadarn a byddant yn adlewyrchu cynnydd dysgwyr Cymraeg unigol. Dylid rhoi mwy o gydnabyddiaeth ffurfiol sy'n gysylltiedig â gyrfa i aelodau o staff sy'n manteisio ar gyfleoedd hyfforddi gyda'r Tîm Sgiliau Iaith. Dylai hyn gael ei adlewyrchu yn system rheoli perfformiad y Cynulliad.

Felly, byddwn yn:

- adolygu'r Strategaeth Sgiliau Dwyieithog yn ystod oes y Cynllun. Dylai'r adolygiad, a'r strategaeth ddilynol, gydnabod y buddsoddiad a wneir gan ddysgwyr Cymraeg unigol, y Tîm Sgiliau Iaith a rheolwyr llinell wrth ddysgu Cymraeg;

- gweithio i wella effeithiolrwydd cynlluniau iaith meysydd gwasanaeth unigol i gefnogi ein gwaith ar recriwtio;

- gweithio â gwasanaethau unigol i adolygu eu cynlluniau iaith fel rhan o gynllunio capasiti blynyddol meysydd gwasanaeth ac fel rhan o adroddiadau cydymffurfio blynyddol y Cynllun hwn; ac

- edrych ar ffyrdd o gadw gwybodaeth gyfoes am sgiliau iaith ar fformat adroddiadwy naill ai drwy ein system Adnoddau Dynol a chyflogres neu drwy ein system rheoli perfformiad.

 

Thema 4: Trafodion y Cynulliad

Cynyddodd y gwaith a wnaed yn ystod y Pedwerydd Cynulliad y cyfleoedd a roddir i Aelodau'r Cynulliad i baratoi ar gyfer trafodion y Cynulliad a chymryd rhan ynddynt yn eu dewis iaith. Erbyn hyn, mae'r Aelodau'n gallu cael papurau briffio pwyllgorau yn eu dewis iaith; geirfaon o dermau technegol a gaiff eu paratoi i gyd-fynd â thaith Biliau drwy'r senedd ac ymchwiliadau penodol pwyllgorau; mae cymorth un-i-un ar gael i Aelodau sy'n ddysgwyr er mwyn cymryd rhan drwy gyfrwng y Gymraeg. Gan weithio gyda'r aelodau newydd a'r pwyllgorau newydd ar gyfer y Pumed Cynulliad, byddwn yn integreiddio gweithio'n ddwyieithog ar gyfer y rhai sy'n dymuno gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg. Ar gyfer pwyllgorau, mae'r dull tîm integredig wedi gweithio'n dda fel modd o nodi anghenion unigol Aelodau'r Cynulliad. Byddwn yn cryfhau rolau'r timau drwy ddarparu cyfeillion cyswllt i Aelodau'r Cynulliad sy'n dymuno gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg a fydd yn bwydo gofynion yr Aelodau i'r tîm integredig cyfan.

Byddwn yn:

- meithrin dealltwriaeth o ddewisiadau unigol Aelodau'r Cynulliad mewn perthynas â pharatoi ar gyfer trafodion y Cynulliad drwy gyfrwng y Gymraeg;

- datblygu rhaglen ehangach o hyfforddiant sgiliau iaith pwrpasol gan ystyried gofynion a dulliau dysgu gwahanol Aelodau'r Cynulliad sy'n dysgu Cymraeg neu sy'n dymuno gwella eu sgiliau Cymraeg;

- datblygu rolau'r timau integredig i roi cefnogaeth well i Aelodau'r Cynulliad sy'n dymuno gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg; a

- rhoi cyngor ac arweiniad ar weithio'n ddwyieithog ar gyfer Aelodau'r Cynulliad a'u staff cymorth.

 

Thema 5: Datblygu ethos dwyieithog y sefydliad

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn sefydliad dwyieithog sy'n gwasanaethu cenedl ddwyieithog. Ein dyletswydd statudol yw trin dwy iaith swyddogol y Cynulliad yn gyfartal a darparu rhyddid o ran dewis iaith swyddogol. Rhaid i'n hunaniaeth ddiwylliannol a chorfforaethol adlewyrchu'r gofynion hyn. Bydd y camau gweithredu o ran yr is-themâu canlynol yn sicrhau bod ein hymrwymiad i ddwyieithrwydd yn dod yn rhan fwy integredig byth o waith y Cynulliad o ddydd i ddydd.

Adnabod staff dwyieithog

Fel rhan o'n cynnig rhagweithiol corfforaethol, byddwn yn atgyfnerthu'r hawl i bawb sy'n dod i gysylltiad â ni i ddefnyddio'r ddwy iaith swyddogol neu'r naill iaith neu'r llall. Yn ystod y Pedwerydd Cynulliad, gwnaethom gynnydd o ran y Gymraeg yn cael ei gweld a'i chlywed yn fwy ar draws y sefydliad. Un enghraifft syml ond effeithiol o'r ffordd yr ydym wedi cyflawni hyn yw drwy gyflwyno llinynnau gwddf ar gyfer dysgwyr. Cawsant eu seilio ar y llinynnau gwddf 'Iaith Gwaith' mwy adnabyddus, ond gyda 'Dysgwr' wedi'i farcio'n glir arnynt. Mae'r llinynnau gwddf wedi bod yn boblogaidd gyda dysgwyr, ac wedi sicrhau cynnydd yn y defnydd o'r Gymraeg yng nghoridorau a swyddfeydd y Cynulliad. Maent hefyd wedi bod yn boblogaidd gyda sefydliadau allanol, gyda llawer yn gofyn i'r Cynulliad ddarparu llinynnau gwddf i'w sefydliadau.

Fodd bynnag, mae llawer o waith i'w wneud eto yn y maes hwn. Byddwn yn gweithio gyda meysydd gwasanaeth unigol i edrych ar ffyrdd o adnabod aelodau o staff sy'n gallu darparu gwasanaethau dwyieithog. Byddwn hefyd yn sicrhau eu bod, yn eu tro, yn hawdd i ddefnyddwyr gwasanaethau eu hadnabod.

Byddwn yn:

- datblygu ffyrdd i staff nodi eu bod yn ddwyieithog neu'n ddysgwyr yn eu negeseuon e-bost;

- sicrhau bod staff dwyieithog yn gwisgo llinynnau gwddf 'Iaith Gwaith' neu 'Dysgwr'

Dylai aelodau o staff rheng flaen sy'n siarad Cymraeg fod yn hawdd eu hadnabod er mwyn i siaradwyr Cymraeg sy’n ymweld â'r Cynulliad allu ymgysylltu â hwy heb orfod troi i'r Saesneg. Yn ystod y Pedwerydd Cynulliad darparwyd gwersi Cymraeg pwrpasol i bob aelod o staff y Gwasanaeth Diogelwch a chynhaliwyd sesiynau gydag aelodau'r gwasanaeth sy'n siarad Cymraeg er mwyn cynyddu eu hyder wrth ddefnyddio'r Gymraeg. Cynhaliwyd nifer o ymgyrchoedd recriwtio penodol hefyd. Arweiniodd yr amrywiol ddulliau hyn at gynnydd cyffredinol yng nghapasiti dwyieithog y gwasanaeth, ac mae'r maes gwasanaeth hwn yn ymrwymedig iawn i wella hynny. Bydd y dull hwn yn cael ei atgyfnerthu yn y Pumed Cynulliad. Byddwn yn:

- sicrhau bod aelodau o staff rheng flaen megis y gwasanaeth Diogelwch yn cael rhagor o hyfforddiant iaith pwrpasol;

- datblygu dulliau hyfforddi newydd a hyblyg i ystyried patrymau shifftiau a chylchdroi;

- ystyried ffyrdd arloesol o recriwtio swyddogion diogelwch dwyieithog, o bosibl drwy asiantaethau recriwtio arbenigol; a

- sicrhau bod ffordd i ymwelwyr ag ystâd y Cynulliad ac aelodau o staff y Cynulliad adnabod aelodau staff rheng flaen sy'n siarad Cymraeg neu sy'n ddysgwyr;

Ymwybyddiaeth

Yn ystod y Pedwerydd Cynulliad darparwyd seminarau ymwybyddiaeth o'r Gymraeg gorfodol ar gyfer pob aelod o staff Comisiwn y Cynulliad. Roeddent yn ddull llwyddiannus o godi ymwybyddiaeth ynghylch y defnydd hanesyddol a chyfredol o'r Gymraeg mewn bywyd cyhoeddus yng Nghymru. Mae'r tîm Ieithoedd Swyddogol yn y Cynulliad wedi cynhyrchu fideo sy'n crynhoi prif themâu'r seminarau hynny. Mae'n cynnwys cyfweliadau gyda rhai o'r dysgwyr yn y Cynulliad, sy'n egluro sut mae dysgu Cymraeg wedi helpu eu datblygiad proffesiynol.

Byddwn yn:

- darparu hyfforddiant ymwybyddiaeth i'r holl newydd-ddyfodiaid fel rhan o'r broses gynefino gorfforaethol i sicrhau bod ganddynt ddealltwriaeth o ofynion y Cynllun;

- darparu hyfforddiant ymwybyddiaeth i'r rhai a ymunodd â'r Cynulliad ar ôl i'r seminarau ymwybyddiaeth gael eu cynnal;

- darparu cyfleoedd parhaus i ategu neu ddatblygu dealltwriaeth o’r Cynllun ac o natur gweithio’n ddwyieithog; a

- pharhau i ddefnyddio fforwm cydgysylltwyr y Cynllun Ieithoedd Swyddogol i godi ymwybyddiaeth o'r Cynllun ymhlith staff.

Yn 2016, cynhaliwyd cyfres o weithgareddau drwy gydol y flwyddyn i hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg. Ym mis Hydref 2015, cynhaliwyd cyfres wythnos o hyd o ddigwyddiadau i gyd-fynd â 'Diwrnod Shwmae/Sumae' cenedlaethol, lle mae pawb yn cael eu hannog i gyfarch ei gilydd yn y Gymraeg. Cynhaliwyd nifer o weithgareddau bob diwrnod o'r wythnos er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r gwasanaethau sydd ar gael i bob aelod o staff ar draws y sefydliad.
Byddwnyn:

- parhau i drefnu gweithgareddau i hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg yn y Cynulliad; a

- rhoi cyhoeddusrwydd i gyflawniadau ein dysgwyr Cymraeg drwy amrywiol gyfryngau a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol.


 

Technoleg

Un o'n prif gyflawniadau yn ystod oes y Cynllun cyntaf oedd y prosiect cyfieithu peirianyddol gyda Microsoft i gyflwyno'r Gymraeg fel opsiwn iaith ar amrywiaeth o raglenni Microsoft, gan gynnwys Microsoft Office (gweler tudalen x). Bydd angen cynnal y berthynas yr ydym wedi'i meithrin gyda Microsoft, er mwyn parhau i wella ansawdd y cynnyrch cyfieithu, ac er mwyn bod mewn sefyllfa dda i fanteisio ar unrhyw ddatblygiadau pellach yn y maes.

Rydym yn sicrhau ein bod yn ymwybodol o'r datblygiadau diweddaraf o ran theori a chymhwyso technoleg iaith. Mae sicrhau bod gan ieithoedd llai eu defnydd fel y Gymraeg bresenoldeb gweladwy a hygyrch ar gynifer o lwyfannau â phosibl yn un ffordd o osgoi’r posibilrwydd o’u difodiant digidol.

Er mwyn atebu agenda ymgysylltu digidol y Cynulliad, rydym yn sicrhau ein bod yn ymwybodol o’r datblygiadau diweddaraf yn y maes, a byddwn yn mynd ati’n rhagweithiol i ffeindio ffyrdd o weithio gyda phartneriaid i ddarparu rhyngwynebau dwyieithog.

Byddwn yn:

- parhau i ddatblygu ein perthynas gyda Microsoft yn dilyn cyflwyno'r Gymraeg yn llwyddiannus ar raglenni sy'n defnyddio Microsoft Translator yn fyd-eang;

- mynd ati i chwilio am gyfleoedd i gydweithio ar ddatblygiad technoleg ac offer iaith, gan gynnwys datblygiadau ym maes technoleg llais-i-destun;

- ymchwilio i ffyrdd o ddarparu rhyngwynebau cyfrwng Cymraeg yn rhagweithiol ar broffiliau TGCh Aelodau'r Cynulliad, staff cymorth neu staff newydd Comisiwn y Cynulliad sy'n nodi eu bod yn siaradwyr Cymraeg, a sicrhau eu bod yn cael cymorth i ddefnyddio'r rhyngwynebau hynny;

- ceisio cyfleoedd i wneud defnydd creadigol o dechnolegau newydd sy’n dod i’r amlwg er mwyn ehangu ein dulliau ymgysylltu, ac er mwyn galluogi ein cyfranddeiliaid i ymgysylltu â ni mewn fformat o’u dewis a thrwy gyfrwng eu dewis iaith swyddogol; a

- chydweithio fel y bo’n briodol â phartneriaid i ehangu’r ddarpariaeth o ran rhyngwynebau dwyieithog sydd ar gael i’n cyfranddeiliaid.

 


 

 

 


 

Adran 4: Trefniadau ar gyfer monitro ac adrodd yn ôl


 

Yr awdurdod dros weithredu’r Cynllun hwn a’r cyfrifoldeb am ei roi ar waith

Mae Comisiwn y Cynulliad  a Chynulliad Cenedlaethol Cymru a Bwrdd Rheoli Staff y Cynulliad yn awdurdodi, yn cefnogi ac yn cymeradwyo'r Cynllun hwn yn llwyr.

Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad Cenedlaethol sydd â’r cyfrifoldeb cyffredinol dros sicrhau y caiff y Cynllun hwn ei roi ar waith.  Cyfarwyddwr Gwasanaethau'r Comisiwn sydd â'r cyfrifoldeb dros gydgysylltu, monitro a, phan fo angen, cynghori ar ddiwygio cynnwys y Cynllun.  O ddydd i ddydd, Rheolwr y Cynllun Ieithoedd Swyddogol fydd sy'n gyfrifol am fonitro cydymffurfiaeth â’r Cynllun a chyd-drafod â chydgysylltydd pob gwasanaeth i wella ystod ac amseriad ein gwasanaethau yn y ddwy iaith swyddogol.  

Mae pob aelod o staff y Cynulliad yn gyfrifol am sicrhau eu bod yn ymwybodol o’r mesurau yn y Cynllun ac am gydymffurfio â hwy wrth iddynt wneud eu gwaith o ddydd i ddydd. Bydd hyfforddiant a chymorth yn cael eu darparu i staff i’w galluogi i gyflawni gofynion y Cynllun.

Mae gan bob rheolwr gyfrifoldeb wedi’i ddirprwyo iddo dros:

- weithredu’r agweddau hynny ar y Cynllun sy’n berthnasol i’w waith;

- annog staff i ddatblygu, gwella a defnyddio eu sgiliau iaith;

- nodi dulliau neu gymorth a allai gynorthwyo staff i ddefnyddio’u sgiliau iaith; a

- sicrhau bod pob aelod o staff yn ymwybodol o ethos dwyieithog y Cynulliad, yr uchelgais a'r gwasanaethau a amlinellir yn y Cynllun hwn;

O dan y Cynllun cyntaf, creodd Comisiwn y Cynulliad fforwm o gydgysylltwyr y cynllun o bob maes gwasanaeth. Mae'r fforwm yn cyfarfod yn rheolaidd, ac mae'r cydgysylltwyr yn gyfrifol am:

- fod yn bwynt cyswllt cyntaf y maes gwasanaeth ar gyfer aelodau'r staff ar gyfer unrhyw agwedd ar y Cynllun Ieithoedd Swyddogol;

- darparu cyngor ar y gwaith o gyflawni'r Cynllun yn eu maes gwasanaeth;

- darparu gwybodaeth a hyfforddiant ymwybyddiaeth i staff newydd yn eu maes gwasanaeth;

- adolygu cynnydd yn erbyn gofynion y Cynllun drwy Fforwm Cydgysylltwyr y Cynllun Ieithoedd Swyddogol, gan gynnwys cydymffurfio â materion fel llofnod awtomatig dwyieithog a negeseuon llais;

- hysbysu Rheolwr y Cynllun Ieithoedd Swyddogol am unrhyw achosion o beidio â chydymffurfio â'r Cynllun;

- adnabod a rhannu enghreifftiau o  arferion da a drwg.


 

Monitro ac adrodd yn ôl

Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn osod adroddiad gerbron y Cynulliad sy’n nodi sut y mae’r Comisiwn wedi rhoi’r Cynllun ar waith yn ystod y flwyddyn o dan sylw. 

Rhaid i’r adroddiad blynyddol nodi i ba raddau, os o gwbl, y darparwyd y gwasanaethau y cyfeirir atynt yn y Cynllun ac, os yn berthnasol, y rhesymau pam na ddarparodd y Comisiwn y gwasanaethau hynny.  Byddwn hefyd yn monitro cydymffurfiaeth pob gwasanaeth unigol â’r Cynllun. 

Bydd monitro cydymffurfiaeth yn flynyddol yn sicrhau bod ein dull o ddarparu gwasanaethau dwyieithog i Aelodau a’r cyhoedd yn dryloyw, ac yn eu galluogi i ddwyn y Comisiwn i gyfrif wrth i ni roi’r Cynllun ar waith.  Mae hefyd yn darparu gwybodaeth i’r Comisiwn sy'n ei alluogi i ddatblygu a gwella ein gwasanaethau dwyieithog yn y dyfodol. 

Mae llu o gyfleoedd i Aelodau'r Cynulliad graffu ar y Cynllun a'i weithrediad:  

- ymgynghorir â hwy bob tymor Cynulliad cyn ei fabwysiadu;

- mae swyddogion y Cynulliad yn ymgysylltu â'r Aelodau'n rheolaidd ar weithrediad y Cynllun o ddydd i ddydd;

- cynhelir dadl ar adroddiad blynyddol y Cynllun yn y Cyfarfod Llawn. 


 

Adolygu a diweddaru'r Cynllun

Mae'r Cynllun hwn yn cael ei adolygu yn unol â pharagraff 8(9) o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (fel y'i diwygiwyd gan adran 2 o Ddeddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) 2012. 

Bydd y Comisiwn yn cynnal ymgynghoriad ar unrhyw ddiwygiad i’r Cynllun hwn a Chynlluniau drafft yn y dyfodol yn unol â gofynion y ddeddfwriaeth berthnasol.  Ni ellir mabwysiadu diwygiadau i’r Cynllun oni bai fod y copïau drafft: 

- wedi’u cyhoeddi a’u gosod gerbron y Cynulliad;

- ar gael ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus a bod unrhyw sylwadau wedi’u hystyried;

-  wedi’u hailosod gerbron y Cynulliad; ac

- wedi’u cymeradwyo drwy benderfyniad y Cynulliad.


 

Ymdrin â chwynion

Rydym am i’r cyhoedd, Aelodau’r Cynulliad, eu staff a staff y Cynulliad ein hysbysu ynghylch unrhyw bryderon sydd ganddynt, gan gynnwys enghreifftiau o ddiffyg cydymffurfio â’r Cynllun, cyn gynted â phosibl. Bydd hyn yn ein galluogi i unioni’r sefyllfa ac i wella’r gwasanaeth a ddarparwn.

Byddwn yn ymdrin â chwynion yn unol â Chod Ymarfer y Cynulliad Cenedlaethol ar Gwynion. 

Os oes gennych bryder neu gŵyn, dylech godi’r mater gyda’r swyddog y buoch yn ymdrin ag ef yn y lle cyntaf.  Os na fydd hyn yn tawelu eich pryderon yn ddigonol, dylech wneud cwyn swyddogol.  Gallwch wneud hyn drwy e-bost, ffacs, llythyr neu drwy lenwi ein ffurflen gwyno.  Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad, neu berson arall a enwebwyd ganddi, fydd yn ymchwilio i’r gŵyn yn unol â'n proses gwyno.  Os nad ydych yn fodlon ar y canlyniad, gallwch ofyn i’r mater gael ei ystyried gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru neu'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Safonau gwasanaeth ar gyfer monitro ac adrodd yn ôl

25            Cydgysylltu'r broses o roi'r Cynllun ar waith

25.1         O ddydd i ddydd, Rheolwr y Cynllun Ieithoedd Swyddogol sy'n gyfrifol am gydgysylltu'r broses o ddatblygu'r Cynllun a'i roi ar waith ac am fonitro cydymffurfiaeth â'r Cynllun. 

25.2         Mae Cydgysylltydd Cynllun Ieithoedd Swyddogol pob maes gwasanaeth yn cynorthwyo gydag agweddau perthnasol ar gyflawni'r Cynllun a sicrhau cydymffurfiaeth ag ef.

26            Ymdrin â chwynion ac achosion o fethu â chydymffurfio

26.1         Bydd unrhyw gwynion ac ymatebion iddynt yn cael eu prosesu gan y gwasanaeth perthnasol ar y cyd â chydgysylltydd Cynllun Ieithoedd Swyddogol y gwasanaeth.  Bydd cwynion neu achosion o fethu â chydymffurfio yn cael eu trin yn yr un modd ag unrhyw ohebiaeth arall a bydd Rheolwr y Cynllun Ieithoedd Swyddogol yn cael gwybod amdanynt bob tro.

27            Yr adroddiad blynyddol

27.1         Rheolwr y Cynllun Ieithoedd Swyddogol fydd yn gyfrifol am reoli'r broses o lunio ein hadroddiad blynyddol, a'i baratoi i'w ystyried gan y Cynulliad yn unol â pharagraff 8(9) o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (fel y’i diwygiwyd gan adran 2 o Ddeddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) 2012. 

27.2         Bydd adroddiad blynyddol yn cael ei osod gerbron y Cynulliad i’w ystyried ym mis Gorffennaf bob blwyddyn yn ystod oes y Cynllun hwn.

 

 



[1] Iaith, Gwaith a Gwasanaethau Dwyieithog: adroddiad y gweithgor ar yr iaith Gymraeg a Llywodraeth Leol Llywodraeth Cymru Mehefin 2016